Gwybodaeth am y MAIB
Yr Hyn yr Ydym yn ei Wneud
Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) yn archwilio ac ymchwilio i bob math o ddamweiniau morol i longau’r DU ledled y byd neu ar eu bwrdd, a llongau eraill yn nyfroedd tiriogaethol y DU.
Cyn belled ag y mae’r MAIB yn y cwestiwn, unig ddiben ymchwilio i ddamweiniau yw pennu eu hamgylchiadau a’u hachosion, gyda’r nod o wella diogelwch bywyd ar y môr ac osgoi damweiniau yn y dyfodol. Nid pennu atebolrwydd yw ei fwriad, nac ychwaith bennu ar bwy mae’r bai, ac eithrio cyn belled ag y mae’n angenrheidiol ar gyfer ei ddiben sylfaenol.
Nid ydym yn gorfodi deddfau nac yn cynnal erlyniadau.
Pwy ydym ni
Yn y swyddfeydd yn Southampton, mae’r MAIB yn gangen ar wahân o fewn yr Adran Trafnidiaeth (DfT). Nid yw’n rhan o’r Asiantaeth Arforol a Gwylwyr y Glannau (MCA). Mae pennaeth y MAIB, y Prif Arolygydd Damweiniau Morol, yn adrodd yn uniongyrchol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth. Mae gennym bedwar tîm o ymchwilwyr i ddamweiniau, pob un yn cynnwys prif arolygydd a thri arolygydd. Mae’r cyfan wedi cymhwyso’n broffesiynol ac yn brofiadol yn y disgyblaethau morol, peirianneg, pensaernïaeth forol a/neu bysgota. Mae staff gweinyddol yn ymdrin â chyllid, contractau, cofnodion, dadansoddi data, cyhoeddiadau ac yn darparu cymorth cyffredinol i arolygwyr ar bob cam o’r ymholiadau gweinyddol, archwiliadau cychwynnol ac ymchwiliadau llawn.
Ein cylch gorchwyl
Nodir pwerau arolygwyr y MAIB a’r fframwaith ar gyfer adrodd ar ddamweiniau ac ymchwilio iddynt yn Neddf Masnachlongau 1995. Rhoddodd Rheoliadau Masnachlongau (Adrodd ac Ymchwilio i Ddamweiniau) 2005 y fframwaith ar waith. Y rheoliadau hyn yw sylfaen gwaith y MAIB. Maent yn berthnasol i fasnachlongau, llongau pysgota a (gyda rhai eithriadau) llongau pleser. Maent yn diffinio damweiniau, nodi diben ymchwiliadau ac yn nodi’r gofynion ar gyfer adrodd ar ddamweiniau. Gwnânt ddarpariaeth ar gyfer gorchymyn, hysbysu a chynnal ymchwiliadau, ond maent yn caniatáu cryn lawer o ryddid i’r arolygwyr weithredu yn ôl eu doethineb– sy’n angenrheidiol o ystyried yr amrywiaeth eang o achosion. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE), y MAIB a’r MCA o ran pa gorff fydd yn arwain mewn ymchwiliadau pan fyddant yn rhannu diddordeb cyffredin, yn arbennig ar y rhyngwyneb llong/glan.
Damwain, Anaf Drwg neu Ddifrifol, neu Ddigwyddiad?
Beth yw damwain?
Digwyddiad nas dymunwyd yw damwain sy’n arwain at anaf i berson, difrod neu golled. Mae damweiniau yn cynnwys colli bywyd neu anaf drwg i unrhyw berson ar fwrdd y llong neu pan gollir person oddi ar y llong; pan gollir llong neu y tybir bod llong wedi ei cholli, pan adewir llong neu fod difrod gwirioneddol iddi; gwrthdrawiad neu diriad, anablu a hefyd difrod gwirioneddol a wneir gan long.
Gall damwain hefyd fod yn achlysur pan fydd offer codi yn cwympo, llwyth neu falast yn symud yn anfwriadol gan wneud i’r llong ogwyddo, llwyth yn cael ei golli i’r môr neu offer pysgota yn cael eu rhwygo gan wneud i’r llong wyro ar oleddf peryglus, os gall y digwyddiad fod wedi achosi anaf difrifol neu ddifrod i iechyd unrhyw berson. Dyletswydd pob meistr neu gapten yw archwilio unrhyw ddamwain sy’n digwydd i’w l/llong neu ar ei bwrdd.
Beth yw anaf drwg?
Mae anaf drwg yn cynnwys torri neu golli unrhyw fraich neu goes, neu golli golwg, neu unrhyw anaf arall sy’n gofyn am ddadebru neu sy’n arwain at hypothermia neu arhosiad mewn ysbyty neu gyfleuster meddygol arall am fwy na 24 awr.
Beth yw anaf difrifol?
Anaf difrifol yw anaf, heblaw anaf drwg, pan fydd y person a anafwyd yn analluog am fwy na thri diwrnod yn olynol.
Beth yw digwyddiad peryglus?
Digwyddiad peryglus yw pan fydd damwain bron â digwydd yng nghyswllt gweithredu llong. Mewn geiriau eraill, yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel damwain a fu ‘ond y dim’ o ddigwydd.
Gofynion adrodd
Rhaid i ddamweiniau, gan gynnwys anafiadau drwg, gael eu hadrodd wrth y MAIB trwy’r dull mwyaf cyflym posibl. Y rheswm am hyn yw er mwyn cynnal ymchwiliad iddynt ar unwaith, cyn i dystiolaeth allweddol bydru, gael ei symud, neu fynd ar goll.
Rhaid adrodd ar anafiadau difrifol o fewn 14 diwrnod.
Nid oes raid adrodd ar ddigwyddiadau peryglus, ond mae’r MAIB yn annog perchnogion meistri llongau a chapteiniaid i adrodd arnynt. Yn aml bydd digwyddiadau peryglus yn dysgu gwersi i ni sydd yr un mor berthnasol â’r rhai sy’n codi o ddamweiniau.
Mae gan y MAIB linell arbennig ar gyfer adrodd ar ddamweiniau - 023 8023 2527. Y tu allan i’r DU, ffoniwch +44 23 8023 2527.
Cysylltir y llinell adrodd ar ddamweiniau yn uniongyrchol â swyddfeydd y MAIB yn Southampton yn ystod oriau gwaith, ac mae’n trosglwyddo’n awtomatig i swyddog y DfT sydd ar ddyletswydd ar adegau eraill.
Yn ystod oriau gwaith, cesglir yr adroddiadau gan staff cynorthwyol y MAIB yn Southampton a fe’i cyfeirir at arolygydd am benderfyniad ar y camau nesaf. Mewn rhai achosion mae’r adroddiad gwreiddiol yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Mewn eraill, bydd yr arolygydd yn cynnal ymholiadau pellach, yn gwneud archwiliad cychwynnol neu’n cynnal ymchwiliad llawn.
Y tu allan i oriau gwaith, bydd swyddog y DTLR sydd ar ddyletswydd yn trosglwyddo unrhyw adroddiadau i gydlynydd dyletswydd y MAIB, sy’n penderfynu pa gamau i’w cymryd.
Yr ymholiad gweinyddol
Mewn rhai achosion, bydd ymchwiliad perchennog neu swyddogion y llong ei hun yn ddigonol. Ond gall y MAIB gynnal ymholiad gweinyddol trwy ohebiaeth a dros y ffôn i geisio mwy o wybodaeth am unrhyw ddamwain. Mae’r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i berchenogion, meistri a phobl neu gyrff perthnasol eraill ddarparu gwybodaeth o’r fath pan ofynnir amdani.
Archwiliad Cychwynnol ac Ymchwiliad Llawn
Yn dilyn hysbysiad bod damwain wedi digwydd, bydd yr arolygwyr yn dechrau casglu tystiolaeth ac yn penderfynu a fyddant yn gwneud archwiliad rhagarweiniol (PE) neu beidio.
Archwiliad Cychwynnol yw’r cam cyntaf mewn ymchwiliad llawn ac mae’n dynodi achosion ac amgylchiadau damwain i weld a ydynt yn bodloni’r meini prawf sy’n ofynnol i gyfiawnhau ymchwiliad pelalch ac adroddiad fydd ar gael i’r cyhoedd.
Os penderfynir, o ganlyniad i’r PE nad yw’r meini prawf wedi eu bodloni, ni fydd y MAIB yn parhau ymchwiliad a bydd yr holl bartïon sy’n ymwneud â’r achos yn cael eu hysbysu.
Gwneir pob ymdrech i archwilio amrywiaeth eang o ddamweiniau bob blwyddyn.
Mae pob PE ac ymchwiliad i ddamwain yn chwilio am atebion i bedwar cwestiwn sylfaenol:
- beth ddigwyddodd?
- sut y digwyddodd?
- pam y digwyddodd?
- beth ellir ei wneud i’w atal rhag digwydd eto?
Unwaith y mae’r penderfyniad i symud ymlaen wedi ei wneud, cesglir yr holl dystiolaeth sydd ar gael. Nid oes fyth ddau achos sydd yn union yr un peth, a gall y broses fod ar sawl ffurf wahanol. Fel arfer bydd arolygwyr yn dymuno gweld llyfrau log, siartiau a dogfennau eraill. Byddant yn ddieithriad yn cyfweld y rhai a all daflu goleuni ar beth ddigwyddodd ac maent yn debygol o dynnu ffotograffau ac archwilio cofnodion cyfrifiadurol. Os bydd y llong yn cynnwys ‘blwch du’, bydd y data yn cael ei dynnu allan a’i archwilio.
Mae’r arolygwyr yn ystyried tystiolaeth o gynifer o ffynonellau ag sy’n bosibl. Os bydd angen hynny, byddant yn galw arbenigwyr technegol i mewn o’r tu allan i’r Gangen. Rhydd y MAIB bwyslais neilltuol ar adnabod yr elfen ddynol wrth astudio achosion damwain.
Weithiau bydd y MAIB yn defnyddio plymwyr neu gerbydau a weithredir o bellter (ROVs) ar wely’r môr i gynnal archwiliad manwl o longddrylliad. Wrth gwrs, dim ond pan fydd y llongddrylliad wedi ei leoli y gellir cynnal arolwg tanddwr, nid yw hynny’n bosibl bob amser. Nid y MAIB sy’n gyfrifol am godi cyrff.
Yn fras iawn, gall gymryd hyd at saith mis i flwyddyn i gwblhau ymchwiliad a chyhoeddi adroddiad. Gall hyn ymddangos yn amser hir ar yr olwg gyntaf, ond fe all fod yn angenrheidiol i gyfweld amrywiaeth fawr o unigolion, croes-wirio tystiolaeth, archwilio offer sydd dan amheuaeth ac ymgynghori gydag arbenigwyr technegol. Yn aml iawn mae gwir achos damwain yn wahanol iawn i’r ateb cyfleus a ddynodwyd gan bobl nad ydynt yn ymchwilwyr i ddamweiniau.
Mae ymchwiliad llawn neu PE yn hollol annibynnol ar unrhyw ymholiadau a wneir gan yr heddlu neu awdurdod arall sy’n casglu tystiolaeth ar gyfer erlyniad posibl.
Adroddiadau
Nod y MAIB yw gwella diogelwch i bawb sy’n gweithio ar y môr neu’n teithio drosto. Mae casgliadau’r MAIB, bron bob amser yn arwain at argymhellion gyda’r nod o atal damweiniau tebyg.
Os gwneir penderfyniad i ymchwilio yn llawn i ddamwain, bydd y MAIB yn sicrhau bod y canlyniadau ar gael i’r cyhoedd mewn adroddiad llawn.
Nid yw adroddiad yr ymchwiliad i ddamwain yn cael ei ysgrifennu gydag atebolrwydd mewn golwg ac ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio yn y llys ar gyfer cyfreithia. Mae’n ceisio dynodi a dadansoddi y materion diogelwch perthnasol parthed y ddamwain benodol, ac i wneud argymhellion a fwriedir i atal damweiniau tebyg yn y dyfodol.
Dair gwaith y flwyddyn mae’r MAIB yn cynhyrchu ‘Safety Digest’ – casgliad o adroddiadau byr, dienw ar y gwersi a ddysgwyd o archwiliadau ac ymchwiliadau.
O bryd i’w gilydd fe all y Prif Arolygydd gyhoeddi adroddiad yn tanlinellu problem ddiogelwch benodol, tuedd mewn diogelwch, neu unrhyw fater arall y mae’n teimlo y dylid ei ddwyn i sylw’r gymuned forwrol a’r cyhoedd. Bydd Adroddiad Blynyddol yn amlinellu’r modd y mae argymhellion diogelwch yn cael eu dilyn ar gael o 2006.
Mae’r MAIB yn cynhyrchu adroddiad blynyddol. Yn hwn ceir disgrifiad o’r hyn y bu’r Gangen yn ei wneud dros y flwyddyn.
Mae’r holl gyhoeddiadau hyn ar gael am ddim gan y MAIB a hefyd ar wefan MAIB.
Ystadegau
Mae’r MAIB yn cynnal basdata cyfrifiadurol o ddamweiniau morol o 1991. Heblaw bod yn ffynhonnell gwybodaeth ddefnyddiol, gellir dadansoddi’r basdata i weld tueddiadau mewn damweiniau.
Cynhwysir ystadegau damweiniau yn adroddiad blynyddol y MAIB.
Addysg a hyfforddiant
Mae’r MAIB yn cynorthwyo i addysgu’r rhai sy’n tramwyo’r môr trwy gyflwyno ei gasgliadau i golegau morwrol a morwyr.
Teuluoedd
Mae’r MAIB yn ymwybodol iawn o’r boen a’r dryswch y gall damwain forol eu hachosi i deuluoedd y dioddefwyr. Mae’r arolygwyr yn gwneud pob ymdrech i gysylltu â theuluoedd y dioddefwyr wedi’r ddamwain i esbonio gwaith y MAIB. Wedi i’n hymchwiliad gael ei gwblhau, byddwn yn rhoi’n casgliadau i deuluoedd y dioddefwyr cyn y byddant ar gael i’r cyhoedd.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth am y MAIB neu wybodaeth am ddamweiniau penodol, cysylltwch â’r MAIB yn y cyfeiriad isod:
Marine Accident Investigation Branch
Carlton House
Carlton Place
Southampton SO15 2DZ
Teleffon 023 8039 5500
Ffacs 023 8023 2459
e-bost maib@dft.gsi.gov.uk
